top of page

Cyllid hanfodol yn caniatáu i elusen iechyd meddwl ‘gyrraedd, cefnogi ac asesu mwy o bobl’


Yn ddiweddar, cafodd elusen iechyd meddwl a lles Wrecsam, Advance Brighter Futures (ABF), newyddion gwych, ar ôl cael £20,000 gan Ymddiriedolaeth Gymunedol Cod Post.


Diolch i chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl, mae Ymddiriedolaeth Gymunedol Cod Post yn cefnogi elusennau llai, ac achosion da yng Nghymru i wneud gwahaniaeth i’w cymuned er budd y bobl a’r blaned.

Mae ABF wedi darparu cymorth iechyd meddwl a lles yn Wrecsam ers 1992 a bydd yr arian hwn yn mynd tuag at swyddogaeth tîm craidd yr elusen, sy’n helpu ABF i barhau â’i waith pwysig yn y gymuned leol.


“ANHYGOEL O DDIOLCHGAR”


Dywedodd Cath Taylor, Swyddog Datblygu Busnes ABF: “Rydym yn hynod ddiolchgar bod Ymddiriedolaeth Gymunedol Cod Post wedi ein cefnogi gyda’r cyllid craidd hwn. Nid cyllid craidd yw’r peth mwyaf hudolus y gall cyllidwr ei gefnogi, ond mae mor bwysig i ni, yn enwedig dros y misoedd diwethaf.


“Yn y gorffennol rydym wedi gallu rheoli costau gweithredol drwy ein digwyddiadau codi arian ein hunain, ond mae Covid wedi effeithio’n ddifrifol ar ein gallu i gynnal y mathau hyn o ddigwyddiadau, ac hefyd rydym wedi gorfod ehangu gwasanaethau i ateb y galw. Yn y pen draw, mae’r cyllid hwn yn ein galluogi i gyrraedd, cefnogi ac asesu mwy o bobl.”


“ANGEN CYNYDDOL”


Mae’r elusen yn ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Gymunedol Cod Post am helpu i dalu ei chostau cynyddol ar ôl gweld angen cynyddol am ei gwasanaethau dros y flwyddyn ddiwethaf.


Ychwanegodd Cath: “Mae ceisiadau am gymorth wedi parhau i gynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf ac rydym am fod mewn sefyllfa dda i ymateb i hyn. Rydym hefyd wedi sylwi ar angen cynyddol am ymgysylltu a gwaith argyfwng gyda’r bobl rydym yn eu cefnogi yn ystod y misoedd diwethaf, sydd angen cymorth mwy arbenigol gan ein staff craidd.

“Er mwyn ateb y galw hwn, rydym wedi gweld ein tîm yn ehangu o 9 aelod o staff i 15 dros y 6 mis diwethaf. Bydd y cyllid pwysig hwn yn helpu i barhau i ymateb i anghenion ein cymuned leol a rhoi’r cymorth sydd ei angen arnynt.”


Os ydych yn byw yn ardal Wrecsam ac yn cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl, gallwch ddysgu mwy am ABF a’r gwasanaethau sydd ar gael yma:

Ffôn: 01978 364777

Comentarios


bottom of page