Cynhelir Diwrnod Amser i Siarad 2022 ddydd Iau, 3 Chwefror, gyda’r nod o greu cymunedau cefnogol drwy annog sgyrsiau gyda theulu, ffrindiau neu gydweithwyr am iechyd meddwl.
I nodi’r diwrnod, bydd staff o elusen iechyd meddwl a lles Wrecsam Advance Brighter Futures (ABF) yn Nhŷ Pawb rhwng 11yb-2yp, ac mae’r elusen yn gwahodd pobl i ddod draw i gael sgwrs am sut maen nhw’n teimlo.
Dywedodd Lorrisa Roberts, Prif Swyddog ABF: “Rydym yn gwbl gefnogol i Ddiwrnod Amser i Siarad ac rydym am i bobl wybod ei bod bob amser yn iawn siarad am eich teimladau. Yn aml, gall sgwrs fach gael effaith fawr arnoch chi a’r bobl o’ch cwmpas, ond rydym yn sylweddoli y gall pobl weithiau ei chael hi’n anodd cymryd y cam cyntaf i rannu sut maen nhw’n teimlo.
“Nid yw’n dda cario pethau o gwmpas gyda chi ac mae siarad am eich pryderon gydag eraill yn aml yn gallu gwneud i chi deimlo’n well a lleddfu rhywfaint o’r pwysau rydych chi’n ei deimlo. Os oes angen i chi gael rhywbeth oddi ar eich brest, dewch draw i’n gweld yn Nhŷ Pawb ddydd Iau 3ydd, rhwng 11yb a 2yp.”
Mae ABF hefyd yn annog pobl i ofalu am unrhyw ffrindiau neu berthnasau nad ydych wedi clywed ganddynt yn ddiweddar, a allai fod yn teimlo’n ynysig.
Ychwanegodd Lorrisa: “Gallwch ddal i gymryd rhan mewn Amser i Siarad drwy estyn allan at eraill, hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n iawn eich hun. Os nad ydych wedi clywed gan rywun rydych chi’n gofalu amdano am ychydig, dewch o hyd i ychydig o amser i holi
amdanynt. Dyw sgwrs pum munud ddim yn swnio – neu’n aml yn teimlo – fel llawer, ond mewn llawer o achosion mae’n gallu bod yn gymaint mwy i rywun.”
NID DIM OND SIARAD
Y llynedd, lansiodd ABF ei fenter Nid Dim ond Siarad fel cyfle i bobl roi eu barn i helpu ABF i wella a gwella ei wasanaethau i ddiwallu’r angen cynyddol am gymorth iechyd meddwl yn Wrecsam a achoswyd gan bandemig Covid-19.
Rhan o’r adborth gan ‘Nid Dim ond Siarad’ oedd bod pobl yn teimlo bod gwasanaeth gwrando ar goll o’r gwasanaethau presennol, felly hoffai ABF yn awr ofyn ychydig mwy am yr hyn y mae hyn yn ei olygu i bobl a sut y gallai’r math hwn o wasanaeth edrych. Os oes gennych farn am hyn, galwch heibio Tŷ Pawb ddydd Iau 3ydd (11yb-2yp) a rhannwch eich syniadau gyda’r tîm ABF.
Ychwanegodd Lorrisa: “Mae ein helusen am ddarparu’r gwasanaethau gorau posib drwy ymateb i anghenion pobl yn Wrecsam. Roedd y wybodaeth a gasglwyd gennym gan Nid Dim ond Siarad yn ddefnyddiol iawn wrth nodi’r angen am wasanaeth gwrando, ac rydym nawr am sicrhau ein bod yn cael mwy o farn fel y gallwn ddarparu’r gwasanaeth cywir i ddiwallu’r anghenion hyn.”
Gallwch ddysgu mwy am ABF a’r gwasanaethau sydd ar gael yn www.advancebrighterfutureswrexham.co.uk
Comments