top of page

Llwyddiant i ‘Tîm ABF’ yn y gemau AVOW’s Community Knockout, tra hefyd yn codi £260 i’r elusen


Cymerodd Tîm ABF ran yn Community Knockout AVOW ddydd Sul 3 Gorffennaf, 2022. Daeth y tîm o 10, a oedd yn cynnwys staff ABF, gwirfoddolwyr, teulu a ffrindiau ynghyd ar gyfer y diwrnod llawn hwyl hwn o gemau a heriau wedi ei sefydlu ar ddull ‘It’s a Knockout’ er mwyn codi arian hanfodol ar gyfer yr elusen.


Llwyddodd y tîm i ddod yn drydydd o wyth tîm arall gan gynnwys y Rhyfelwyr AVOW (o AVOW) a’r Dynamic All Stars (o Wrecsam Dynamic).


Dywedodd Zoe Whitehead, Swyddog Datblygu Busnes ABF: “Cawsom ni gyd amser gwych. Roedd yn hwyl a chwerthin di-ddiwedd, ac roedd yn wych gweld cymdeithasau’r gymuned yn dod at ei gilydd. Rydyn ni’n dal i fethu credu ein bod ni wedi dod yn drydydd, rydyn ni i gyd ar ben ein digon!”


Cymerodd timau ran mewn heriau yn erbyn ei gilydd, gan gystadlu am bwyntiau i’w tîm. Yn un her oedd Matt (Swyddog Hyfforddi ABF) yn gorfod gwisgo fel cawr gyda chymorth ei gyd-chwaraewyr Gareth (Hyfforddwr Ffordd o Fyw yn ABF) a Celeste (Gwirfoddolwraig yn ABF).



Cafodd y tîm cyfan hwyl fawr yn dringo wal chwyddadwy wedi’i gorchuddio â dŵr ac ewyn. Daeth Sue (Therapydd Siarad yn ABF) yn gwbl barod gyda’i chap cawod polka dot pinc llachar!

Dyblodd y tîm eu pwyntiau ar y ras ‘Egg & Penguin’, a nhw hefyd enillodd y safle cyntaf yn her y cwrs rhwystr gwynt, lle bu’n rhaid iddynt wneud eu ffordd ar draws y cwrs wrth gydbwyso peint o ddŵr ar eu pennau.


Noddwyd y tîm i gymryd rhan gan ffrindiau, teuluoedd a chydweithwyr a chodwyd cyfanswm gwych o £260! Fel elusen fach leol, mae unrhyw rodd, waeth pa mor fawr neu fach, yn golygu llawer i ni a bydd yr arian a godir yn mynd yn bell i helpu’r bobl rydym yn eu cefnogi.


Ychwanegodd Zoe: “Rydyn ni’n hynod falch o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yn y gymuned, ond fydden ni ddim yn gallu gwneud dim ohono heb ein cefnogwyr. Felly, diolch yn fawr iawn i bawb a noddodd Tîm ABF!”.


Hoffai ABF hefyd ddiolch i AVOW am drefnu digwyddiad mor wych ac i’r holl dimau eraill am greu diwrnod allan mor hwyliog â ffocws cymunedol.


Os hoffech wneud cyfraniad i ABF, gallwch wneud hynny yma: https://wonderful.co.uk/pay?ref=1089638#header


Comments


bottom of page