Gall elusen iechyd meddwl a lles o Wrecsam barhau â’i phrosiect poblogaidd HALO (Help And Listening Online) am flwyddyn ychwanegol diolch i gyllid gan Sefydliad Steve Morgan.
Mae Advance Brighter Futures (ABF) wedi cefnogi pobl yn ardal Wrecsam ers dros 25 mlynedd i adeiladu bywydau hapusach a mwy bodlon trwy wella eu lles meddyliol. Cyflwynodd ABF ei brosiect HALO i ddiwallu anghenion pobl drwy gynnig mwy o wasanaethau a chymorth ar-lein mewn ymateb i argyfwng Covid-19.
Roedd cyllid ar gyfer y prosiect i fod i ddod i ben ddiwedd mis Mawrth 2021, ond mae Sefydliad Steve Morgan wedi darparu £10,000 i’r elusen a fydd yn caniatáu i’r prosiect barhau am ddeuddeg mis arall.
“GALL HALO BARHAU”
Dywedodd Lorrisa Roberts, Prif Swyddog ABF: “Mae gwrando ac ymateb yn rhai o’r egwyddorion allweddol sydd wrth wraidd yr hyn a wnawn yn ABF. Trwy’r prosiect HALO rydym wedi gwrando – ac yn parhau i wrando – ar y bobl rydym yn eu cefnogi i lunio’r gwasanaeth o amgylch yr hyn sydd ei angen yn Wrecsam. Rydym wrth ein bodd y gall HALO barhau am flwyddyn arall.
Cafodd y cymorth ar-lein ei gyflwyno ar adeg pan oedd ei wir angen ar bobl, ond gyda llawer o gyfyngiadau yn dal i fod yn eu lle mae pobl yn parhau i fod angen gwasanaethau HALO. Rydym yn wirioneddol ddiolchgar i Sefydliad Steve Morgan am ddarparu’r arian i barhau gyda’r prosiect pwysig hwn sy’n cefnogi pobl yn Wrecsam.
“MWY NAG ARIANWR YN UNIG”
Mae Sefydliad Steve Morgan wedi cefnogi’r elusen dros nifer o flynyddoedd ac mae hefyd yn ariannu swydd gweinyddwr ABF, sy’n rôl hanfodol o fewn yr elusen. Esboniodd Lorrisa: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Sefydliad Steve Morgan am y gefnogaeth y maent wedi ei rhoi i ni. Rydyn ni wedi’i ddweud o’r blaen, ond rydyn ni’n gweld Sefydliad Steve Morgan fel mwy na chyllidwr yn unig, maen nhw’n rhan o deulu ABF.”
A ALL HALO EICH HELPU?
Mae’r prosiect HALO ar gael i unrhyw un yn ardal Wrecsam dros 18 oed a hoffai gefnogaeth llesiant ar gyfer eu hiechyd meddwl ac i gysylltu ag eraill yn y gymuned leol. Mae HALO yn cynnig cefnogaeth ar draws tri diwrnod yr wythnos trwy Dydd Llun Hamddenol, Dydd Mawrth Blasu a Dydd Mercher Lles. Mae yna hefyd grŵp cymorth Facebook y gall pobl ymuno ag ef i gael awgrymiadau a chefnogaeth gan bobl o'r un anian.
Os ydych chi’n meddwl y gall y prosiect HALO eich cynorthwyo gyda’ch lles, ffoniwch 01978 364777 neu e-bostiwch info@abfwxm.co.uk
I gael gwybod mwy am Advance Brighter Futures a’i wasanaethau, ewch i www.advancebrighterfutureswrecsam.co.uk
Comments