top of page

Adeiladwyr lleol yn garedig iawn yn rhoi ffenestr newydd i elusen iechyd meddwl a lles


Hoffai Advance Brighter Futures (ABF) ddiolch i Malcolm Davies & Sons am fod yn hael a gosod ffenestr newydd i safle’r elusen yn Ffordd Belmont, Wrecsam, yn ddiweddar.


Roedd angen ffenestr newydd ar yr elusen iechyd meddwl a lles er mwyn bodloni rheoliadau diogelwch tân, felly cysylltodd nhw â’r adeiladwyr lleol i weld a fyddai ganddynt ddiddordeb mewn gwneud y gwaith. Gwnaeth yr adeiladwr hi’n glir yr hoffent gyflenwi’r deunyddiau a’u hamser yn rhad ac am ddim.


DIOLCH ENFAWR


Dywedodd Lorrisa Roberts, Prif Swyddog ABF: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Malcolm Davies & Sons am eu rhodd anhygoel o garedig. Mae’n gwmni dibynadwy rydym wedi’i ddefnyddio o’r blaen pan fydd angen gwaith adeiladu arnom ar ein safle, felly roeddem wrth ein bodd pan wnaeth Malcolm y rhodd hon i ni.


“Mae Malcolm a’i dîm wedi creu argraff dda arnom erioed pan fyddant wedi gwneud gwaith i ni yn y gorffennol, ac maent bob amser wedi darparu gwasanaeth gofalu i ni. Mae’r rhodd hon wedi dangos ac atgyfnerthu i ni eu bod yn wirioneddol ofalgar.


“Fel llawer o elusennau bach, mae’r pandemig wedi ein taro’n galed, sydd wedi bod yn anodd gan fod angen ein gwasanaethau nawr, yn fwy nag erioed. Gall yr arian rydyn ni wedi’i gynilo fynd yn syth i helpu pobl leol, ar adeg pan maen nhw ein hangen ni, a diolch i Malcolm Davies & Sons. Allwn ni ddim eu hargymell yn ddigon uchel.”

댓글


bottom of page