Mae raffl i ennill potel o jin Aviation gan Ryan Reynolds wedi codi £263.35 i helpu elusen gwella lles iechyd meddwl yn Wrecsam o’r enw Advance Brighter Futures (ABF).
Rhoddwyd y botel yn garedig iawn gan Ganolfan Gymraeg Saith Seren ar ôl iddynt gael darpariaeth arbennig o’r jin Aviation gan Ryan Reynolds, ychydig ddyddiau ar ôl i’r actor ffilm Deadpool a’i gyd-actor Rob McElhenny gymryd perchnogaeth o AFC Wrecsam.
Enillydd lwcus y raffl a pherchennog balch y darn o hanes lleol oedd Leon Bowen. Ers hynny mae Leon wedi tynnu lluniau syfrdanol o’i wobr… edrychwch i’w gweld dros eich hunain.
“HYD YN OED OS NA WNAETHOCH CHI ENNILL, DYLECH FOD YN FALCH EICH BOD WEDI CEFNOGI.”
Mae’r raffl wedi codi arian hanfodol y gall ABF ei roi bellach tuag at helpu pobl leol wrth iddo barhau i gynnig ei wasanaethau lles drwy’r pandemig parhaus.
Dywedodd Cath Taylor, Swyddog Datblygu Busnes Advance Brighter Futures: “Diolch yn fawr i’r Saith Seren am ein dewis ni ac mae diolch enfawr hefyd yn mynd i bawb a roddodd o’u hamser i brynu tocyn. Mae’r pandemig wedi cael
effaith enfawr ar iechyd meddwl, ac fel elusen fach leol rydym wedi dibynnu ar godi arian i’n helpu i weithio drwy’r cyfnod heriol hwn.
“Mae galw mawr am ein gwasanaethau yn yr ardal leol, a bydd mwy o bobl nawr yn gallu ein defnyddio oherwydd y gwerthiannau tocynnau hyn. Hyd yn oed os na wnaethoch ennill, dylech fod yn falch ohonoch eich hun. Rwy’n siŵr y bydd Ryan wrth ei fodd bod ei jin wedi helpu i godi arian i nifer o elusennau Wrecsam yn ddiweddar, ac rydym mor falch o fod yn un ohonynt.”
I ddysgu mwy am Advance Brighter Futures a’r gwaith rydym yn cyflawni, ewch i’n gwefan.
Comments