top of page

Cinio elusennol yn codi dros £1,600 at achosion gwych

Updated: Jul 10, 2023



Cododd digwyddiad elusennol a gynhaliwyd ym Mwyty a Bar Artezzan yng Nghaer dros £1,600, a fydd yn cael ei rannu rhwng dau achos gwych.


Cynhaliwyd Cinio ac Arddangosfa Elusen Advance Brighter Futures ar y cyd gan Zoe Angelise a Teana Lynne ddydd Sul, Hydref 23, 2022.


Ffotograffydd ac artist gweledol yw Zoe (Zoe Angelise Photography), a Teana yw awdur llyfr sy’n gwerthu orau (Seen Too).


Cododd y digwyddiad gyfanswm o £1,640, a fydd yn cael ei rannu rhwng yr elusen iechyd meddwl a lles o Wrecsam Advance Brighter Futures, a Own My Life Courses, sy’n cefnogi gwragedd sy’n destun cam-drin neu drais gan eu partner i adennill perchnogaeth o’u bywydau.


Roedd awyrgylch gwych drwy’r nos, gyda gwesteion yn cael cynnig prosecco wrth gyrraedd, cyn eistedd i lawr am bryd dau gwrs. Cafwyd hefyd adloniant cerddorol bendigedig, yn ogystal â raffl ac arwerthiant lle bu Zoe yn arddangos ei ffotograffiaeth i westeion i gynnig ar y gwaith celf i godi arian gwerthfawr at y ddau achos.

Dywedodd Zoe: “Thema’r noson oedd ‘Camu i’r Goleuni’ i amlygu bod yna elusennau fel Advance Brighter Futures a all helpu i ddod â’r golau yn ôl i fywydau pobl, gan roi gobaith, cymorth a chefnogaeth trwy heriau bywyd. Rwy’n dymuno’r gorau i Advance Brighter Futures ar gyfer eu prosiectau parhaus ac yn gobeithio y gall yr arian a godwyd gennym o’r noson eu helpu i ddod â’r golau yn ôl i fywydau llawer o bobl ac y gallant gael dyfodol mwy disglair.”


Yna siaradodd Teana am Seen Too lle bu hi a 14 o fenywod eraill yn rhannu eu straeon bywyd ysbrydoledig. Cyrhaeddodd y llyfr restr gwerthwyr gorau Amazon ac mae'r holl elw a godir o'r llyfr yn cael ei roi i Advance Brighter Futures.


Dywedodd Teana: “Gyda fy stori bersonol o oroesi cam-drin domestig, yn ogystal â bod yn rhywun sydd wedi profi nad yw hi byth yn rhy hwyr ac nad ydych byth yn rhy hen i ddechrau eto, ac ochr yn ochr â fy mhrofiad o fyw gyda rhywun sydd wedi dioddef o iechyd meddwl gwael, roedd y cyfle i gefnogi elusennau mor deilwng yn rhywbeth yr oeddwn yn awyddus i’w wneud. Yn ogystal, rhoddodd y digwyddiad gyfle i mi godi proffil Seen, llyfr ysbrydoledig o 15 o fenywod calon-ganolog yn rhannu eu straeon am sut maent wedi camu yn eu pŵer, pwrpas ac angerdd wrth gefnogi ABF gyda’r holl elw gwerthiant.”


Rhoddodd Zoe Whitehead, Swyddog Datblygu Busnes ABF, araith hefyd yn sôn am y gwaith y mae’r elusen yn ei wneud i gefnogi pobl leol yn y gymuned gyda’u hiechyd meddwl a’u lles. Wrth siarad wedyn, dywedodd: “Roedd yn noson wirioneddol wych drwy’r amser. Roedd y lleoliad yn syfrdanol a bwyd blasus, ond yr hyn a wnaeth y noson mewn gwirionedd oedd cyfarfod â phawb ac roedd awyrgylch llawn bwrlwm drwy'r nos.


“Roedd yr arwerthiant a’r raffl yn llawer o hwyl, a chodwyd swm gwych. Fel elusen fach, leol, mae unrhyw rodd, waeth pa mor fawr neu fach, yn golygu'r byd i ni. Cawsom ein syfrdanu gan haelioni’r rhai a fynychodd y digwyddiad a bydd yr arian a godwyd yn mynd yn bell i helpu’r gymuned leol gyda’u hiechyd meddwl.”


Gallwch wneud cyfraniad i Advance Brighter Futures yma: https://wonderful.co.uk/pay?ref=1089638#header


Gallwch ddysgu mwy am yr elusen a’i gwaith drwy fynd i http://www.advancebrighterfutureswrexham.co.uk

Comments


bottom of page