top of page

Mae ramp newydd yn darparu gwell mynediad i elusen iechyd meddwl leol


Mae gwaith wedi’i gwblhau ar ramp newydd i roi gwell mynediad i adeilad a ddefnyddir ar gyfer ystod eang o weithgareddau a gwasanaethau cymunedol.


Mae’r adeilad, ar Belmont Road, yn eiddo i’r elusen leol iechyd meddwl a lles Advance Brighter Futures (ABF), a’r ramp newydd yw’r cam cyntaf tuag at wneud y cyfleuster yn fwy hygyrch i bobl sydd â anhawster symudedd neu corfforol.


Bydd hyn o fudd mawr i’r gymuned leol gan fod llawer o wasanaethau’n cael eu rhedeg o’r adeilad. Yn ogystal â gwasanaethau cymorth ABF, defnyddir yr adeilad ar gyfer gwahanol weithgareddau, gan gynnwys profion clyw, cwnsela, hyfforddiant, grwpiau cymorth a chyrsiau cyflogadwyedd.


Cafodd y ramp, sydd ag arwyneb di-lithro, ei gyd-ariannu gan Sefydliad Teulu Williams, sy’n rhoi grantiau i elusennau cofrestredig lleol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, a Sefydliad Screwfix, sy’n cefnogi prosiectau i wella cyfleusterau cymunedol.

Mae’r ddau gyllidwr wedi cefnogi ABF ar brosiectau eraill o’r blaen, ac mae’r elusen yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth werthfaw hon.


“GWELLIANT ENFAWR”


Dywedodd Lorrisa Roberts, Prif Swyddog Advance Brighter Futures: “Rydym mor ddiolchgar i Sefydliad Teulu Williams a Sefydliad Screwfix am ddarparu’r cyllid pwysig hwn ar gyfer y ramp newydd, a fydd yn gwneud llawer i’n helpu i groesawu pob ymwelydd i’r adeilad. Roedd y ramp blaenorol yn hen ffasiwn ac wedi’i gynllunio’n wael, felly rydym wedi gweld gwelliant enfawr.


“Gall ymweld â phrosiect cymunedol, fel ein prosiect ni, fod yn anodd i bobl mewn sawl ffordd wahanol, ond bydd cael y ramp newydd yn chwalu unrhyw rwystr o symudedd cyfyngedig. Rydym hefyd wedi’i leoli’n fwriadol i’n galluogi ni i ddarparu parcio ychwanegol, gan gynnwys mannau penodol ar gyfer deiliaid bathodyn glas.


“Mae’n arwydd clir i’n holl ymwelwyr ein bod yn ymdrechu i gael gwared o unrhyw rwystr o ran cael mynediad at ein gwasanaethau a’n hystafelloedd cymunedol.”


“SEFYLLFA WELL O LAWER I LETYA PAWB”


Fel arfer, mae’r elusen yn lleoli ei thîm o 14 o staff ac 20+ o wirfoddolwyr yn yr adeilad i gefnogi pobl yn uniongyrchol gyda’u hiechyd meddwl a’u lles, er oherwydd y cyfyngiadau presennol mae staff wedi bod yn gweithio o bell.


Ychwanegodd Lorrisa: “Er nad ydym wedi gallu defnyddio’r adeilad yn fawr dros y misoedd diwethaf, rydym wedi edrych arno fel cyfle i wneud newidiadau sylweddol iddo, fel y byddwn mewn sefyllfa well o lawer i bawb pan allwn ailagor ein gwasanaethau’n llawn.


“Rydym yn bwriadu rhoi tarmac ar ein maes parcio er mwyn creu cyfleusterau parcio addas llawer gwell unwaith y byddwn wedi sicrhau cyllid pellach. Bydd hwn yn gam pwysig arall tuag at chwalu unrhyw rwystrau a allai atal pobl rhag defnyddio ein gwasanaethau.”


I gael gwybod mwy am wasanaethau ABF ewch at www.advancebrighterfutureswrexham.co.uk/wp/cy/cartref/

bottom of page