
Os ydych yn teimlo y gallai ein cefnogaeth fod yn addas i chi, mae Advance Brighter Futures yn cynnig ystod o wasanaethau am ddim y gallwch hunangyfeirio atynt. Gallwch weld beth sydd ar gael yn ein Hatodlen Gwasanaethau, gyda gwybodaeth am ein holl wasanaethau, ynghyd â ffurflenni atgyfeirio a manylion cyswllt.
Ewch i'n Hatolden Gwasanaethau yma
Ni allwn eich ateb ar unwaith bob amser ond mae cymorth uniongyrchol bob amser ar gael.
Gwasanaethau ABF
Hear My Voice
Sgiliau Hunaneiriolaeth
i Bawb!
Hyfforddiant Ffordd o Fyw
BYW 1-i-1
Cyrsiau a Hyfforddiant
Gweithgareddau Grŵp BYW
Sesiynau OutREACH
Dod o hyd i'r cymorth cywir i chi
Os ydych chi'n cael trafferth, neu'n poeni am rywun arall, mae yna amrywiaeth o linellau cymorth a gwasanaethau ar gael a all gynnig cymorth, cyngor a rhywun i siarad ag ef. Does dim rhaid i chi wynebu pethau ar eich pen eich hun, a gall estyn allan am gymorth fod yn un o'r camau mwyaf dewr i'w cymryd.
Os oes perygl uniongyrchol i fywyd, ffoniwch 999.
Ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, lle gall gweithwyr proffesiynol hyfforddedig gynnig cyngor, asesiad, a'ch cyfeirio at wasanaethau brys lleol.
Ffoniwch 111 a dewiswch opsiwn 2
Gwasanaeth atal hunanladdiad cyfrinachol i bobl ifanc dan 35 oed, ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos dros y ffôn, neges destun neu e-bost.
0800 068 4141 / Text: 88247
pat@papyrus-uk.org
Gwasanaeth gwrando a chymorth emosiynol cyfrinachol, am ddim, i unrhyw un yng Nghymru, ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos dros y ffôn, neges destun neu e-bost.
0800 132 737
call@helpline.wales
Cyfeiriadur cymorth iechyd meddwl ledled y DU sy'n eich helpu i ddod o hyd i wasanaethau, llinellau cymorth a chymorth cymunedol sy’n lleol i chi.
Gwasanaeth gwrando cyfrinachol i unrhyw un sy'n cael trafferth, yn ofidus, neu'n teimlo fel petaen nhw’n cael eu llethu, ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, lle bydd gwirfoddolwyr hyfforddedig yn gwrando heb farnu.
116 123
jo@samaritans.org
Cyfeiriadur lles ar gyfer Cymru gyfan sy'n eich helpu i ddod o hyd i wasanaethau lleol a chenedlaethol, grwpiau cymorth a chyngor i chi'ch hun neu rywun arall.
Gwasanaeth cyfrinachol, am ddim, sy'n cynnig cymorth ymarferol ac emosiynol i unrhyw un yng ngogledd Cymru sydd wedi profi galar neu gael ei effeithio gan hunanladdiad. Rhoddir cymorth ac arweiniad sy’n ystyriol o drawma.
07496 925 401
enfysalice@felin-fach.co.uk
Gwasanaeth cymorth cyfrinachol, am ddim, ar neges destun i unrhyw un sy'n cael trafferth neu'n teimlo fel petaen nhw’n cael eu llethu, ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos gyda gwirfoddolwyr hyfforddedig.
Text: 85258
giveusashout.org
Gwasanaeth cymorth emosiynol ac ymarferol cyfrinachol, am ddim, i unrhyw un yng Nghymru sydd wedi cael eu heffeithio gan hunanladdiad, gan gynnig cymorth tosturiol dros y ffôn, galwad fideo, neu wyneb yn wyneb.
08000 487742
support@nals.cymru
Llinell gymorth gyfrinachol i unrhyw un sy'n cael trafferth neu mewn argyfwng, ar gael o 5pm tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos dros y ffôn, a 24 awr y dydd drwy sgwrs ar y we.
0800 58 58 58
thecalmzone.net
Ap a gwefan atal hunanladdiad am ddim sy'n cynnig offer, cynllunio diogelwch, a mynediad cyflym at gymorth lleol a chenedlaethol.
stayalive.prevent-suicide.org.uk
Gwasanaeth cymorth cyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc dan 19 oed, ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos dros y ffôn a sgwrs ar y we.
0800 1111
childline.org.uk
