Mae’n bleser gan yr elusen iechyd meddwl a lles Advance Brighter Futures (ABF) gadarnhau bod y gwaith adeiladu helaeth i ymestyn a gwella ei safle yn 3 Ffordd Belmont, Wrecsam bellach wedi’i gwblhau.
Dyfarnwyd £145,818 i’r elusen gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru tuag at gyfanswm cost datblygu’r adeilad cymunedol sydd wedi darparu ystafelloedd cyfweld un-i-un ychwanegol, toiled cwbl hygyrch, cegin wedi’i hadnewyddu, lle parcio ychwanegol i ymwelwyr a lefel gwastad ac 4 system larwm tân ardystiedig.
Mae ABF yn cefnogi dros 700 o bobl yn Wrecsam a Sir y Fflint a’r cyffiniau bob blwyddyn, gyda hyd at 100 o bobl yn defnyddio’r adeilad bob wythnos (cyn-bandemig). Bydd y cyfleusterau gwell yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r gymuned leol.
“ANSAWDD Y MAE POBL YN EI HAEDDU”
Dywedodd Rick Bedson, Cadeirydd Ymddiriedolwyr ABF: “Mae ein contractwr adeiladu, Malcolm Davies & Sons, ynghyd â’r pensaer Blueprint wedi gwneud gwaith gwych. Mae'r estyniad yn edrych yn wych ac yn rhoi’r ystafelloedd o ansawdd un-i-un ychwanegol y mae mawr eu hangen o’r safon mae pobl yn ei haeddu.
“Mae’r maes parcio wedi’i orffen i safon ardderchog, ac rydym wrth ein bodd gyda phob agwedd o’r gwaith adeiladu.
“Mae cefnogaeth Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru wedi ein galluogi i ddarparu adeilad sy’n gyfeillgar i bobl i gyd-fynd â’r cymorth iechyd meddwl proffesiynol sy’n canolbwyntio ar bobl y mae ABF yn ei gynnig. Cyn hyn, nid oedd gennym ni gyfleusterau un-i-un priodol ac roedden ni’n rhedeg allan o le yn aml, ond mae’r grant wedi ein galluogi i ddatrys y ddau fater.
“Rydym hefyd wedi cael cymorth ariannol pellach; £2,703 gan Sefydliad Teulu Williams a helpodd gyda'r gwaith o adnewyddu'r gegin, a £1,000 gan Tesco Bags of Help a helpodd i greu maes parcio i ymwelwyr. Mae’r ddwy agwedd hyn yn bwysig iawn gan eu bod yn effeithio ar brofiad ein hymwelwyr.
“Roeddem yn falch o dderbyn dau ymweliad gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn ystod y cyfnod adeiladu a wnaeth e ddangos ddiddordeb ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gymorth iechyd meddwl yn y gymuned a’r gwasanaethau y mae ABF yn eu darparu. Ar ei ymweliad diwethaf cafodd weld y gwaith ar y gweill, ac edrychwn ymlaen yn awr at ei groesawu eto i’w dywys o gwmpas unwaith eto nawr bod popeth wedi’i gwblhau.”
Prif Weinidog Cymru gyda staff ABF yn ystod ymweliad
“GWAHANIAETH MAWR I’R GWASANAETH A’R CEFNOGAETH Y GALLWN EI DARPARU”
Dywedodd Lorrisa Roberts, Prif Swyddog ABF: “Mae’r croeso mae pobl yn ei gael, a’r awyrgylch rydyn ni’n ei greu i bobl sydd angen cymorth a chefnogaeth mor bwysig. Mae amgylchedd gwael yn cyfrannu at y negyddoldeb y mae pobl yn ei deimlo pan fyddant mewn trallod neu argyfwng, felly roedd yn hanfodol i ni wneud y gwelliannau hyn. Mae’r Cyllid Grant Cymunedol wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’r gwasanaeth a’r cymorth y gallwn eu darparu.
“Mae elusennau bach yn chwarae rhan bwysig yn eu cymunedau lleol, gan gyrraedd pobl nad yw gwasanaethau prif ffrwd weithiau’n llwyddo i’w gwneud. Mae'r pellter rhwng y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a'r bobl sydd angen gwasanaethau yn fach iawn. Mae sefydliadau cymunedol yn weithgar mewn digwyddiadau cymunedol lleol, ac mae pobl leol yn cyfeirio eu cymdogion at elusennau lleol bach, fel ni.”
CEFNOGAETH BUSNES LLEOL
Mae ABF hefyd wedi cael cymorth gan nifer o fusnesau lleol drwy gydol y broses, gyda llawer ohonynt wedi gwneud rhoddion neu leihau eu costau i helpu’r elusen.
Ychwanegodd Lorrisa: “Rydyn ni mor ddiolchgar am y gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael, ac ni fydd yn cael ei anghofio. Yn garedig iawn, rhoddodd Don Hughes Electrical ffitiadau golau LED au goso. Bu Triton Peak Limited yn hael yn darparu a gosod bleindiau ffenestr i ni, yn rhad ac am ddim. Gosododd Jackson Fire and Security system larwm tân newydd a TJ Services a wnaeth yr addurno, gyda'r ddau gwmni yn ein cynorthwyo i wneud arbedion. Mae timau Ystadau a Thiroedd Iâl Coleg Cambria hefyd wedi rhoi amser ac ymdrech i sicrhau bod y gwelliannau hanfodol hyn yn cael eu cyflawni. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu ar hyd y daith.”
I ddysgu mwy am Advance Brighter Futures a’i wasanaethau ewch i www.advancebrighterfutureswrexham.co.uk
Comentarios