top of page

Codwyd dros £500 i ABF yn Rasys Bangor!


Codwyd dros £500 er budd elusen iechyd meddwl a lles Wrecsam, Advance Brighter Futures (ABF) ar Gae Ras Bangor Is-coed yn ddiweddar.


Codwyd cyfanswm gwych o £513.96 ar y diwrnod rasio ar ddydd Mercher, Tachwedd 9fed, wrth i gwsmeriaid roi rhoddion hael yn y bwcedi casglu o amgylch y cae rasio.


Mae ABF wedi darparu cymorth iechyd meddwl a lles yn Wrecsam ers 1992, a bydd yr arian a godir yn mynd tuag at gefnogi pobl yn y gymuned leol.

Dywedodd Zoe Whitehead, Swyddog Datblygu Busnes ABF: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’r tîm yn Rasys Bangor am ein gwahodd a’n cefnogi gyda chasgliad bwced eleni. Roedd awyrgylch gwych ar y cae ras, a phawb yn hynod hael gyda’u rhoddion. Dim ond elusen fach ydyn ni felly mae unrhyw rodd yn golygu’r byd i ni, a bydd yr arian yn mynd yn uniongyrchol i helpu pobl leol yn ein cymuned gyda’u hiechyd meddwl a’u lles. Mae angen ein gwasanaethau yn fwy nag erioed dros y blynyddoedd diwethaf, ac rydym am helpu cymaint o bobl ag y gallwn. Bydd y rhoddion hyn yn ein galluogi i gefnogi mwy o bobl, felly maent yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr.”


Os ydych yn teimlo bod chi hefyd eisiau cyfrannu, gallwch wneud cyfraniad i Advance Brighter Futures yma: https://wonderful.co.uk/pay?ref=1089638#header


bottom of page