Bydd Advance Brighter Futures (ABF) yn dathlu ei ben-blwydd perl ddydd Gwener, Hydref 7, 2022, gyda digwyddiad tŷ agored yn cael ei gynnal yn adeilad yr elusen ar ei newydd wedd yn 3 Belmont Road.
Bydd y digwyddiad yn edrych yn ôl ar waith yr elusen iechyd meddwl a lles yn y gymuned dros y 30 mlynedd diwethaf, gyda llawer yn digwydd ar y diwrnod, gan gynnwys areithiau gan Gadeirydd Ymddiriedolwyr ABF ac aelodau sefydlu, ynghyd â Gwestai VIP syrpreis!
Bydd yr adeilad ar agor 12pm-3pm a bydd gwesteion gwadd yn gallu edrych o gwmpas yr adeilad sydd newydd ei adnewyddu, gan gynnwys yr estyniad newydd sbon a ariennir gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, a dysgu mwy am y prosiectau a’r gwasanaethau a gynigir yn ABF.
Hefyd, bydd her feicio noddedig, gemau hwyliog, a raffl (gyda chyfle i ennill gwobrau) gyda’r arian a godir yn mynd yn uniongyrchol i helpu pobl Sir y Fflint a Wrecsam gyda’u hiechyd meddwl a’u lles.
Mae ABF yn gofyn i bobl sydd wedi bod yn gysylltiedig ag elusen dros y 30 mlynedd diwethaf i ddod ymlaen i fod yn rhan o’r dathliadau ar Hydref 7.
Dywedodd Rick Bedson, Cadeirydd Ymddiriedolwyr ABF: “Byddwn wrth ein boddau yn cael cymaint o bobl ag y gallwn sy’n gysylltiedig ag ABF i’r digwyddiad pen-blwydd. Bydd y diwrnod yn dathlu’r holl staff, gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr a llawer mwy dros y blynyddoedd sydd wedi gwneud hyn yn bosibl, ond yn bwysicaf oll, bydd yn dathlu’r bobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau ABF dros y blynyddoedd hefyd.
“Rydym yn hynod falch o gyrraedd 30 mlynedd o ddarparu help llaw ar gyfer iechyd meddwl pobl. Ein cenhadaeth yw sicrhau nad oes unrhyw unigolyn sy’n profi problemau iechyd meddwl byth yn teimlo ei fod ar ei ben ei hun, ac mae cymaint o bobl wedi cyfrannu at hyn ers i ni agor ein drysau gyntaf yn 1992. Mae’r digwyddiad tŷ agored yn mynd i fod yn ddathliad gwych o popeth ABF, felly os ydym naill ai wedi gweithio gyda chi neu wedi eich cefnogi yn y gorffennol, byddem wrth ein bodd yn eich cael chi yno.”
Gall pobl sydd wedi bod yn ymwneud ag ABF archebu eu lle drwy fynd i’r ddolen ganlynol: https://www.eventbrite.co.uk/e/abfs-pearl-anniversary-event-open-day-tickets-414014607837
Neu os na allwch ddod ar y diwrnod, ond bod gennych chi stori yr hoffech ei rhannu, e-bostiwch zoe@abfwxm.co.uk
Comments