Mae Advance Brighter Futures (ABF), yr elusen iechyd meddwl leol sydd wedi gweithio yn Wrecsam a’r cyffiniau dros y 25 mlynedd diwethaf, yn galw ar bobl Wrecsam ar Ddydd Iechyd Meddwl y Byd (Dydd Sadwrn 10 Hydref) i beidio dioddef mewn distawrwydd yn ystod y cyfnod clo diweddaraf. Mae’r elusen wedi gorfod ymateb i’r pandemig drwy addasu’r ffordd y mae’n darparu ei wasanaethau i frwydro yn erbyn arwahanrwydd, straen a gorbryder, ac oblegid hynny wedi gweld cynydd yn y nifer o bobl sy’n dod atynt.
Yn ôl y Prif Swyddog, Lorrisa Roberts: “O ganlyniad i’r cynydd mewn galw, ry’n ni wedi mynd ati i newid y ffordd ry’n ni’n darparu ein gwasanaethau iechyd meddwl: wedi’r cyfan yn ôl un arolwg mae dros hanner y boblogaeth yng Nghymru wedi teimlo effaith Cofid-19 ar eu iechyd meddwl. Dyna sydd tu ôl i’r newidiadau yma. Ry’n ni wedi symud llawer o’n gwasanaethau i fod ar-lein, gan gynnwys ein gwasanaethau cwnsela; ry’n ni wedi datblygu gwasanaethau newydd, fel Wellbeing Wednesday; ac yn cynnig gwasanaeth ‘check-in’ i frwydro yn erbyn unigrwydd.”
Mae’r galw yn uchel. Ers mis Ebrill eleni, mae ABF wedi cefnogi bron i 450 o bobl ledled Wrecsam, gan ddaraparu 600 o alwadau ffôn ‘check in’ – hyd yn hyn. Mae cynnal gwasanaethau ABF yn hanfodol gan fod eu hangen yn fwy nag erioed – yn anad dim oherwydd eu hanes profedig o gael effaith gadarnhaol ar fywydau eu cleientiaid, fel Fiona Edwards, 57 oed, a ddaeth ar draws ABF bum mlynedd yn ôl, yn ei hymdrechion i reoli ei OCD a’i gorbryder.
Wrth siarad o’i chartref yn Wrecsam dywedodd Fiona: “Mae ABF wedi rhoi fy mywyd yn ôl i mi – a dwi’n byw fy mywyd yn nawr yn hytrach na goroesi’n unig. Dynes hyfryd agorodd drws mawr gwyn ABF yn gyntaf i mi, a fuodd hi yn gefnogaeth wych i mi. Teimlais yn gartrefol ar unwaith. Ro’n i’n gallu dweud yn syth mod i’n ddiogel a ddim yn mynd i fod yn ffeil â rhif iddynt yn unig. Cyn i mi dderbyn help, doedd dim modd i mi deithio ar fws oherwydd fy mhryder ac OCD. Erbyn heddiw, dwi’n gallu mynd ar fws, a gwneud hynny’n rheolaidd. Dwi ‘di mynd o fod yn berson oedd yn derbyn cefnogaeth gan ABF i fod yn wirfoddolwr yn yr elusen, gan gefnogi eraill fel cymheiriad.”
Ers cwrdd â thîm ABF, mae Fiona wedi mynd ymlaen i astudio ar gyfer gradd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr ac erbyn heddiw yn astudio ym Mhrifysgol Caer ar gyfer ei Meistr mewn Therapi Celf. Yn ôl Fiona: “Byddwn yn argymell i unrhyw un sydd ag anawsterau gydag iechyd meddwl i fynd ati i gael cymorth ac i ystyried ABF, gan fod yr elusen yn wych ac yn lleol i ardal Wrecsam. Gan fod Cofid-19 yn ymddangos i fod yma am amser go-lew, dwi di penderfynu i gymryd y camau petrusgar cyntaf tuag at ddarparu cwnsela ar-lein. Dwi di gweld, yn enwedig yn ystod yr wythnosau diwethaf, sut mae hyn yn helpu pobl yn y ystod y cyfnod clo. Dwi’n gobeithio y bydd pobl yn estyn allan atom ni os ydyn nhw’n dioddef.”
Cynhelir Dydd Iechyd Meddwl y Byd bob blwyddyn ar 10 Hydref, gyda’r nod cyffredinol o godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl ledled y byd. Thema eleni yw ‘iechyd meddwl i bawb’, sy’n ceisio cefnogi’r rhai yn ein plith sydd wedi eu heffeithio’n wael gan Cofid-19. Mae’r rhain yn cynnwys gweithwyr gofal iechyd, myfyrwyr, rheiny sydd wedi colli eu bywoliaeth, pobl mewn tlodi, y rhai sydd eisoes yn dioddef o gyflyrau iechyd meddwl, a rheiny mewn galar, yn enwedig y rhai oedd wedi methu ffarwelio â’u hanwyliaid.
Un o brosiectau llwyddiannus yr elusen yw BYW – Believe You Will – sydd wedi gweld 86% o gleientiaid yn cynyddu eu gallu i reoli eu iechyd meddwl. Mae’r prosiect yn cynnig hyfforddiant personol gan hyfforddwyr ffordd o fyw, gan gynnwys sesiynau ar wella hunan-barch neu ddatblygu rhwydweithiau cymdeithasol, gyda’r sesiynau yn parhau am awr dros chwech i wyth wythnos.
Mae Prosiect Ymgysylltu BYW hefyd yn cynnig gweithgareddau cerdded, garddio a chelf. Er mwyn ymwneud â BYW, mae angen i chi gael eich atgyfeirio gan y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol. Mae gennym nifer o wasanaethau eraill lle gall bobl hunangyfeirio, gan gynnwys ein prosiect Adferiad Ôl-enedigol a Chefnogaeth Cydfuddiannol (PRAMS) i rieni, ac ystod eang o grwpiau cymorth addysgol.
Os ydych chi’n byw yn ardal Wrecsam ac yn cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl, gallwch ddysgu mwy am ABF a’r gwasanaethau a gynigir yma:
Ffôn: 01978 364777 / 01978 310247
E-bost: info@abfwxm.co.uk
Comments