Mae Diwrnod Amser i Siarad 2021 yn cael ei gynnal ddydd Iau, 4 Chwefror, gyda’r pwyslais eleni ar ‘Bŵer Bach’.
Mae elusen iechyd meddwl a lles Wrecsam, Advance Brighter Futures (ABF), yn cefnogi’r neges hon ac eisiau i bobl sylweddoli sut y gall sgwrs fach yn aml gael effaith fawr arnoch chi a’r bobl o’ch cwmpas.
Dywedodd Lorrisa Roberts, Prif Swyddog ABF: “Gyda’r sefyllfa rydyn ni ynddi nawr, nid yw llawer ohonom yn cael cymaint o sgyrsiau ag y byddem ni pe na baem yng nghanol pandemig. Mae mor bwysig codi’r ffôn a gwirio’r bobl rydych chi’n poeni amdanynt, yn ogystal â siarad ag eraill am sut rydych chi’n teimlo.
“Mae Diwrnod Amser i Siarad yn ein hannog i siarad â’n gilydd am ein hiechyd meddwl, ond os yw rhywun yn teimlo’n unig, efallai y byddan nhw’n cael trafferth cymryd y cam cyntaf. Mae’r galwadau ffôn, FaceTime neu Skype hynny’n bwysig iawn, felly os nad ydych wedi clywed gan rywun rydych chi’n poeni amdano am gyfnod, neu os ydych chi’n teimlo bod angen i chi gael rhywbeth oddi ar eich brest eich hun, estynnwch allan a gwnewch Amser i Siarad.
“Dyw sgwrs pum munud ddim yn swnio – neu’n teimlo – fel lot, ond mewn llawer o achosion mae’n gallu bod gymaint mwy i rywun.”
GWNEWCH AMSER I SIARAD AG ABF DDYDD IAU YMA
Mae Advance Brighter Futures yn cynnal sesiwn Zoom ar-lein am ddim rhwng 4-5pm ddydd Iau yma (4 Chwefror), a fydd yn rhoi cyfle i bobl wneud Amser i Siarad ag eraill.
Dywedodd Gareth Bilton, Swyddog Ymgysylltu ABF: “Bydd y sesiwn yn cynnwys rhai gemau hawdd eu dilyn fel cyflwyniad, ond y peth pwysig yw bydd yn rhoi cyfle i bobl rannu sut maen nhw’n teimlo – er dim ond os ydyn nhw’n gyfforddus i wneud hynny.
“Un o’r pethau y byddwn yn ei archwilio yw sut y gofynnir i ni sut yr ydym, amseroedd di-rif, gan bobl, dieithriaid, rhai agos, a chydnabyddiaeth. Mae ein hymateb yn aml yn gwrtais, ‘Rwy’n iawn diolch, sut ydych chi?’ Rydyn ni’n ymateb fel hyn hyd yn oed os ydyn ni’n teimlo unrhyw beth ond yn iawn! Mae hwn yn arfer sy’n cuddio sut rydym yn wirioneddol ac yn gallu atal sgwrs cyn iddi ddechrau.
“Bydd ein sesiwn hefyd yn edrych ar y gwahanol bethau o’n cwmpas a all gefnogi a gwella ein lles… pethau bob dydd nad ydynt yn eithafol, neu hyd yn oed bethau rydym yn aml yn ymwybodol ohonynt. Gall atgoffa ein hunain o’r pethau bach, ond ystyrlon hyn, fod yn ddefnyddiol iawn. Mae’r sesiwn am ddim ac rydym yn croesawu pawb i ddod draw.”
I gael gwybod mwy am y sesiwn hon, ffoniwch 01978 364777 neu e-bostiwch info@abfwxm.co.uk
Comentários