top of page

Mae Ben yn profi ei fod un Toriad Uwchben Y Gweddill Er Mwyn Codi Arian ar gyfer Advance Brighter Fu

Updated: Jul 10, 2023



Oherwydd yr amgylchiadau presennol, mae’n debyg bod angen gwallt da ar lawer ohonom ac efallai eu bod wedi bod yn meddwl am droi at ‘wallt gartref’ fel y gelwir.


Roedd Ben Williams yn un o’r bobl hyn, ond defnyddiodd hyn fel cyfle i godi arian i helpu elusen iechyd meddwl leol sy’n agos iawn at ei galon.


“CODAIS £200 AM ELUSEN ANHYGOEL”


Eglurodd Ben: “Gyda’r wlad dan glo a’r holl drinwyr gwallt wedi cau, roedd angen toriad gwallt arnaf, ond doedd gen i ddim llawer o ddewisiadau.


“Daeth y syniad i weld hyn fel cyfle i wneud arian ar gyfer ‘Advance Brighter Futures’ (ABF). Gofynnais i bobl a fyddent yn fodlon fy noddi os pe byddwn yn torri y cyfan a mynd yn foes. Roedd y bobl yn wirioneddol hael.


“Roedd fy mam a’n nhad yn gefnogol iawn ac wnes i godi £200 i’r elusen anhygoel. Rwy’n cael gweld dros fy hun yr holl waith anhygoel y mae’n ei wneud yn yr ardal leol… plws, fel bonws ychwanegol dylai’r gwallt hwn bara nes i’r trinwyr gwallt ailagor.”



Mae Ben wedi cynrychioli ABF ers dros ddwy flynedd bellach, gan ddechrau fel gwirfoddolwr yn wreiddiol ym mis Chwefror 2018, a arweiniodd wedyn at iddo ddod yn gyflogai ym mis Medi 2019.


Elusen iechyd meddwl a lles yw Advance Brighter Futures, a sefydlwyd yn Wrecsam ers 1992. ‘Ein gweledigaeth yw sicrhau nad oes unrhyw unigolyn sy’n cael problemau iechyd meddwl byth yn teimlo fel ei fod ar ben ei hun.


Dywedodd Ben: “Dechreuodd gyda mi’n dod i mewn i wneud dau brynhawn yr wythnos o waith gweinyddol. Yn dilyn hynny, gwirfoddolais wedyn i helpu gyda’r daith gerdded Erddig yn wythnosol hefyd.


“Rwyf bellach ar gontract 9 awr lle rwy’n gwneud gwaith gweinyddol iddynt ac rwyf hefyd yn parhau i wneud y daith gerdded yn wirfoddol.”


Aeth Ben ymlaen “Mae Advance Brighter Futures yn golygu teulu i mi gan fod pawb sy’n gweithio yma yn rhan o un deulu mawr. Mae ABF hefyd yn golygu hapusrwydd oherwydd bod gan bawb yma wên fawr ar eu hwyneb bob amser, a fydd yn goleuo eich diwrnod.”


“CLOD I ABF”


Dywedodd Lorrisa Roberts, Prif Swyddog Advance Brighter Futures: “Mae’n wych bod Ben wedi defnyddio ei fenter i godi rhywfaint o arian a dod ag ymwybyddiaeth i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud, ond doedd e ddim yn fy synnu o gwbl.


“Mae Ben yn rhywun a ddaeth atom ni fel gwirfoddolwr ac deallodd ein gwerthoedd craidd yn gyflym iawn. Mae bellach yn cael ei gyflogi gan yr elusen. Mae’n ein cynrychioli’n dda iawn ac hoffwn ddweud wrth Ben, ‘Rwyt yn glod i ABF”.


“RYDYN NI’N DAL YMA I CHI”


Mae’r Clo Mawr wedi cyflwyno sawl her i elusennau ledled Cymru, ond mae ABF yn parhau i weithredu a darparu ei wasanaethau hanfodol, er mewn ffordd wahanol o lawer nag arfer.

Eglura Lorrisa: “Rhywbeth rydyn ni’n awyddus i’w bwysleisio yw ein bod ni’n dal ar agor, ac er na fyddwch chi’n gallu dod i’r adeilad am gymorth, rydyn ni wedi sefydlu ein staff i weithio gartref i roi cymorth dros y ffôn i’r bobl sydd ein hangen.


“Rydym hefyd wedi gallu defnyddio Zoom i barhau i gynnig ein sesiynau grŵp, ac mae hyn hefyd wedi bod yn ffordd wych i staff gadw mewn cysylltiad drwy gael cyfarfodydd staff. Mewn sawl ffordd mae hyn wedi dod â ni i gyd yn nes at ein gilydd.


“Mae’r wlad dan glo, ond yn sicr nid yw iechyd meddwl ac mae ein neges yn glir – rydym yma i chi o hyd.”


BETH RYDYM YN EI WNEUD

I gael rhagor o wybodaeth am yr elusen a’r gwasanaethau a gynigiwn, ewch i’n gwefan.

Comments


bottom of page