Mae Wythnos Gwirfoddolwyr 2021 yn digwydd rhwng 1-7 Mehefin, ac mae elusen iechyd meddwl a lles Wrecsam Advance Brighter Futures (ABF) wedi talu teyrnged i’w gwirfoddolwyr niferus, y mae eu cyfraniadau wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl leol dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd Lorrisa Roberts, Prif Swyddog ABF: “Mae gennym gymaint o wirfoddolwyr arbennig sy’n parhau i fod yn bwysig i’r elusen ac rydym am ddiolch yn fawr iawn i bob un ohonynt, oherwydd dros y 12 mis diwethaf mae’n debyg ein bod wedi bod eu hangen yn fwy nag erioed. Mae wedi bod yn ymdrech tîm go iawn i weithio ein ffordd drwy’r pandemig, ac mae cyfraniad ein gwirfoddolwyr wedi bod yn amhrisiadwy. Mae ein gwirfoddolwyr yn anhygoel – maen nhw’n ein helpu mewn llawer o wahanol ffyrdd, ac yn syml doedden ni ddim yn gallu gwneud yr hyn rydyn ni’n ei wneud hebddynt.”
CODI ARIAN DRWY WNEUD ‘DECOUPAGE’
Mae gwirfoddolwyr yn ABF yn rhoi o’u hamser i’r elusen mewn amrywiaeth o ffyrdd, fel cymryd rhan mewn cyflawni prosiectau, rhedeg grwpiau amrywiol, a helpu gyda gwahanol gyrsiau, ond un o’r cyfraniadau mwyaf anarferol a chreadigol i’r elusen fu drwy ‘decoupage’.
I’r rhai nad ydynt wedi clywed amdano o’r blaen, decoupage yw’r grefft o addurno arwynebau drwy ddefnyddio toriadau papur a gorchuddio â sawl haen o orffeniad fel arfer (fel lacquer neu farnais) i efelychu paentio ar arwyneb pren, metel neu wydr.
Mae’r gwirfoddolwraig ABF Elaine Hughes wedi bod yn gwneud potiau a photeli decoupage syfrdanol i godi arian i’r elusen dros y deuddeg mis diwethaf. Mae ei llafur o gariad wedi arwain at lawer o aelwydydd ledled Wrecsam bellach yn arddangos y gweithiau celf hyfryd hyn.
Mae Elaine yn eu gwneud i godi arian er cof am ei merch Emma a oedd wedi defnyddio gwasanaethau ABF o’r blaen. Hyd yn hyn, mae Elaine wedi llwyddo i godi £700 ar gyfer Advance Brighter Futures er cof am Emma, gan helpu’r elusen i barhau â’i gwaith pwysig ar draws Wrecsam.
Daw’r holl botiau gyda chardiau bach sy’n dweud ‘Made with Love for Advance Brighter Futures’ a gellir eu prynu mewn siopau manwerthu yn Llangollen a Chaergwrle.
Ychwanegodd Lorrisa: “Elaine yw’r enghraifft berffaith i ddangos y gwahanol ffyrdd y gall gwirfoddolwyr gyfrannu at elusen drwy eu sgiliau. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud na fydd y rhan fwyaf o bobl wedi clywed am decoupage o’r blaen, ond mae gwaith celf Elaine yn wych ac wedi codi arian gwerthfawr i ni. Mae pawb sydd wedi gwirfoddoli i ni, ym mha bynnag ffurf, wedi ychwanegu at yr hyn a wnawn, ac ni allwn ddiolch digon iddynt.”
ALLECH CHI WIRFODDOLI DROS ABF?
Mae Advance Brighter Futures angen gwirfoddolwyr newydd ar hyn o bryd i gefnogi nifer o’i wasanaethau.
Mae’r elusen yn chwilio am wirfoddolwyr i gynorthwyo gyda’i phrosiect PRAMS (Cydnerthedd Rhieni a Chyd-gefnogaeth), a gwirfoddolwyr i weithio ar ei phrosiect HALO (Help a Gwrando Ar-lein).
Mae angen mwy o godwyr arian gwirfoddol hefyd, felly os credwch y gallwch gyfrannu yn y maes hwn, byddai ABF wrth ei fodd yn clywed gennych.
Mae angen gwirfoddolwyr ar ABF hefyd i helpu gyda rhai o’r cyrsiau y mae’n eu cynnal, gan ei gwneud yn ofynnol i wirfoddolwyr gynorthwyo gyda’r ddarpariaeth, yn ogystal â bod angen gwirfoddolwyr i gefnogi pobl sy’n mynychu’r cyrsiau.
Anogir unrhyw fyfyrwyr sy’n chwilio am leoliadau cwnsela i gysylltu hefyd.
Hefyd, mae cyfleoedd i wirfoddoli ar grwpiau celf a’r grwp cerdded sy’n rhedeg yn wythnosol.
Os gallwch gynnig eich amser a’ch sgiliau ar yr uchod, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd hyn, e-bostiwch info@abfwxm.co.uk neu ffoniwch 01978 364777.
Bình luận