Mae elusen iechyd meddwl yn Wrecsam a Chanolfan Gymraeg y dref, Saith Seren, wedi ymuno i godi cannoedd o bunnoedd i’r elusen.
Cafodd Saith Seren ddanfoniad arbennig o Aviation Gin gan Ryan Reynolds ychydig ddyddiau ar ôl i seren ffilm Deadpool a’i gyd-actor Rob McElhenny gael cymryd perchnogaeth o AFC Wrecsam. Ynghyd â’r anrheg o jin cafwyd nodyn criptig gan y dyn ei hun sy’n darllen: “I’r gwerinwyr yn Saith Seren: Rhai i chi a rhai i mi. Gobeithio eich gweld yn fuan – Ryan Reynolds.”
Erbyn hyn, mae’r bar canol tref yn gweithio gyda Advance Brighter Futures, elusen iechyd meddwl leol a helpodd dros 700 o bobl eleni, i sicrhau bod elusennau lleol yn elwa o’r ddarpariaeth arbennig.
Dywedodd Chris Evans, cadeirydd y cwmni cydweithredol cymunedol sy’n rhedeg Saith Seren: “Rydym eisoes wedi gwerthu rhywfaint o’r jin a bydd yr holl elw yn mynd i dair elusen enwebedig. Ond roedden ni hefyd eisiau cynnig cyfle teg i bobl ennill rhan o’r anrheg unigryw hon – roedd raffl yn ymddangos fel y ffordd decaf o wneud hynny. Felly rydym wedi gweithio gydag ABF fel un o’r elusennau rydym yn eu cefnogi i geisio gwneud rhywfaint o arian ar eu cyfer yn y cyfnod anodd hwn.
Mae Saith Seren yn dathlu ei nawfed pen-blwydd ym mis Ionawr a dywedodd Nia Jones, sy’n rheoli’r bar yn Saith Seren, ei bod yn gobeithio y gallai Ryan a Rob ddod i’r bar i samplu’r jin unwaith y daw’r cyfyngiadau i ben: “Mae Ryan yn dweud bod rhai i ni a rhai iddo fe yn ei nodyn, felly efallai y byddaf yn cadw un yn ôl y tu ôl i’r bar i ni ei rannu.
“Mae’r jin wedi mynd lawr yn dda iawn gyda phawb sydd wedi rhoi cynnig arni ac mae gallu rhoi’r holl arian i rai elusennau lleol arbennig iawn yn wych. Ni ellir
gorbwysleisio’r hwb y mae’r dref wedi’i gael gan y ddwy seren Hollywood hyn ac mae’n wych bod yr holl dafarndai sydd wedi cael rhodd gan Ryan wedi gwneud yr un peth.”
Ychwanegodd Cath Taylor, Swyddog Datblygu Busnes Advance Brighter Futures: “Rydym wrth ein boddau i gael ein dewis fel un o’r elusennau a fydd yn elwa o’r raffl. Mae unrhyw arian a roddir inni yn mynd yn uniongyrchol at helpu pobl leol, felly rydym yn ddiolchgar iawn am hyn. Fel pawb arall, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu Ryan – a Rob – i Wrecsam pan mae’n ddiogel gwneud hynny.”
Os ydych chi eisiau cymryd rhan yn y raffl i ennill potel o Ryan’s Aviation Gin, cliciwch y ddolen isod i brynu tocyn(au).
Comentarios