top of page

Prif Weinidog Cymru yn gweld cynnydd o ran datblygu adeiladau a ariennir gwerth £145,000 yn ystod ym


Croesawodd elusen iechyd meddwl a lles Wrecsam Advance Brighter Futures (ABF) Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford i’w adeilad cymunedol yn ddiweddar.


Dyfarnwyd £145,818 i ABF gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, sydd wedi caniatáu i’r elusen adeiladu estyniad deulawr, darparu ystafelloedd un-wrth-un ychwanegol, gwella rhai o’r cyfleusterau mewnol a chynyddu’r capasiti parcio ceir.


Ymwelodd y Prif Weinidog â’r elusen yn 3 Belmont Road ddydd Mercher, 24 Tachwedd a chael gweld yn uniongyrchol y cynnydd ar waith helaeth i ymestyn a gwella’r safle. Hwn oedd ei ail ymweliad ag ABF eleni, ar ôl ymweld â’r elusen ym mis Ebrill o’r blaen.


Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Medi ac roedd y Prif Weinidog yn falch iawn o weld y datblygiad hwn ar y gweill, a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r gymuned leol pan fydd wedi’i gwblhau.


Dywedodd Rick Bedson, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr yn ABF: “Roedd yn wych gweld y Prif Weinidog eto a dangos iddo sut mae pethau’n ffurfio yn Belmont Road. Nid oedd y gwaith adeiladu wedi dechrau pan ymwelodd â ni yn gynharach yn y flwyddyn, felly roedd yn gallu gweld y gwelliannau mawr rydym wedi’u gwneud dros y misoedd diwethaf. Mae datblygiad mawr wedi’i wneud y tu ôl i’r adeilad, lle mae gennym bellach strwythur ein hestyniad. Er bod digon o waith i’w wneud o hyd, cafodd weld newidiadau sylweddol yn fewnol ac yn allanol i’r eiddo.”


Dywedodd Lorrisa Roberts, Prif Swyddog ABF: “Nid oedd ein hadeilad yn adlewyrchu’r safon y mae ein cymuned yn ei haeddu. Mae amgylchedd gwael yn cyfrannu at y negatifedd y mae pobl yn ei deimlo pan fyddant mewn trallod neu argyfwng. Mae Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru yn ein galluogi i greu safle sy’n ystyriol o bobl a fydd yn cyfateb i’r cymorth iechyd meddwl o ansawdd uchel a ddarparwn i bobl.”


Dywedodd Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip Llywodraeth Cymru, Jane Hutt: “Mae Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhai prosiectau lleol gwych i esblygu a thyfu i ddiwallu anghenion penodol eu hardal.


“Mae cynnig grantiau fel y rhain i brosiectau a arweinir gan y gymuned yn helpu i wella cyfleusterau y mae mawr eu hangen. Maen chwarae rhan mor bwysig ym mywydau pobl ledled Cymru. Hoffwn ddiolch i sefydliadau a gwirfoddolwyr y trydydd sector sy’n gweithio mor galed yn eu cymunedau i ddarparu cymorth a chefnogaeth hanfodol lle mae ei angen fwyaf – mae eich ymdrechion yn ysbrydoledig.”


Os ydych chi’n byw yn ardal Wrecsam ac yn cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl, gallwch ddysgu mwy am ABF a’r gwasanaethau sydd ar gael yma:



Ffôn: 01978 364777


Comentarios


bottom of page