top of page

Mae elusen Wrecsam yn penodi Joe i ddod â chynrychiolaeth ifanc i’w gwasanaethau iechyd meddwl


Mae’r elusen iechyd meddwl a lles Advance Brighter Futures (ABF) wedi penodi cynghorydd ifanc i gael cynrychiolaeth fwy ifanc ar ei wasanaethau iechyd meddwl yn Wrecsam.


Mae iechyd meddwl yn effeithio ar niferoedd cynyddol o bobl ifanc bob blwyddyn ac mae ABF wedi ymateb trwy ddod â Joe Williams, 17, i mewn i helpu i arwain a siapio’r elusen sy’n symud ymlaen.


Joe yw llysgennad iechyd meddwl cyfredol Campws Coleg Cambria Yale, felly pan aeth ABF at y coleg i weld a allent argymell person ifanc i’w helpu, roedd Joe yn ddewis amlwg.


Yn ddiweddar, helpodd Joe ABF i drefnu a chymryd rhan yn ‘The Big Pizza Party’ yn adeilad yr elusen ar Ffordd Belmont. Daeth y digwyddiad â phobl dan 25 oed ynghyd i rannu eu barn am ddyfodol gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc.


“YN GYFFROUS I GAEL GWYBODAETH, SGILIAU A BRWDFRYDEDD JOE”


Dywedodd Lorrisa Roberts, Prif Swyddog ABF: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi dod â Joe i’r gorlan ac mae wedi cael effaith eisoes. Rydyn ni eisiau cefnogi iechyd meddwl yr ifainc gymaint ag y gallwn ni, ond rydym hefyd yn ymwybodol nad ni yw’r criw ieuengaf yn ABF, gyda dim ond un aelod o staff taledig o dan 25 oed, felly roedden ni’n awyddus i gael llais ychwanegol ar y materion hyn.


“Mae Joe wedi dod â’r hyn yr oeddem yn brin ohono, a diolchwn i Goleg Cambria am ein rhoi mewn cysylltiad ag ef. Wrth edrych ymlaen, rydym yn obeithiol y bydd Joe yn mynd ymlaen i’n cynrychioli ar fwrdd ieuenctid ar gyfer partneriaeth y mae ABF yn ymwneud â hi, gan geisio cyllid i ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl pobl ifanc yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.


“Roedd hefyd yn wych bod Joe wedi dod i’n cyfarfod staff diweddar a chael cwrdd â’r tîm i gyd. Mae’r tîm cyfan yn gyffrous i gael gwybodaeth, sgiliau a brwdfrydedd Joe, a fydd yn ein helpu i ddiwallu anghenion pobl ifanc yn ein cymuned.”


Dywedodd Joe Williams: “Rwy’n hapus iawn i gael y cyfle hwn i helpu ABF ac rwyf wedi cael croeso cynnes gan bawb. Mae iechyd meddwl yn fater hynod gyffredin yn y byd sydd ohoni ac mae’n effeithio ar fywydau llawer o bobl, gan gynnwys pobl ifanc. Gobeithio y gallaf, trwy fy rôl, helpu ABF i barhau i wneud gwaith anhygoel yn y gymuned a helpu pobl leol gyda’u hiechyd meddwl a’u lles.”


I ddysgu mwy am Advance Brighter Futures a’i wasanaethau ewch i www.advancebrighterfutureswrexham.co.uk

bottom of page