Codwyd dros £600 er budd elusen iechyd meddwl a lles Wrecsam Advance Brighter Futures (ABF) ar faes pêl-droed Clwb Pêl-droed Wrecsam yn ddiweddar.
Codwyd cyfanswm gwych o £618 yn y gêm ar ddydd Mawrth, Mawrth 8fed, wrth i gefnogwyr gyfrannu’n hael yn y bwcedi casglu o amgylch y cae pêl-droed.
Mae ABF wedi darparu cymorth iechyd meddwl a lles yn Wrecsam ers 1992, a bydd yr arian a godir yn mynd yn uniongyrchol tuag at gefnogi pobl yn y gymuned leol.
Dywedodd Zoe Whitehead, Swyddog Datblygu Busnes ABF: “Hoffem ddiolch i CPD Wrecsam am ein gwahodd, a hefyd eu llongyfarch ar eu buddugoliaeth wych yn erbyn Boreham Wood.
“Roedd yna awyrgylch gwych drwy’r nos, ac ni allwn ddiolch digon i’r cefnogwyr am eu rhoddion i ni. Rydym yn deall bod amserau’n anodd i’r mwyafrif ar hyn o bryd, felly mae eu haelioni wedi ein syfrdanu.
“Dim ond elusen fach ydyn ni, ac felly bydd yr arian yn mynd yn uniongyrchol at helpu pobl leol yn ein cymuned gyda’u hiechyd meddwl a’u lles.
“Bu angen ein gwasanaethau yn fwy nag erioed dros y misoedd diwethaf, ac rydym am helpu cymaint o bobl ag y gallwn. Bydd y rhoddion hyn yn caniatáu inni gefnogi mwy o bobl, felly maent yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr.”
Ddim yn y gêm ond dal eisiau rhoi? Gallwch wneud cyfraniad i Advance Brighter Futures yma: Cyfrannwch i ADVANCE BRIGHTER FUTURES gyda Wonderful Payments
Gallwch ddysgu mwy am yr elusen a’i gwaith drwy fynd i advancebrighterfutureswrecsam.co.uk
Comentarios